Y Bugail mwyn, o'r nef a ddaeth i lawr, I geisio'i braidd trwy'r erchyll anial mawr; Ei fywyd roes yn aberth yn eu lle, A'u crwydrad hwy ddialwyd arno 'Fe. O'm crwydrad o baradwys daeth i'm hôl, Yn dirion iawn fe'm dygodd yn ei gôl; 'Does neb a ŵyr ond ef, y Bugail mawr, Pa faint fy nghrwydro o hynny hyd yn awr. Â'i hyfryd lais fe'm harwain yn y blaen; Cydymaith yw Ef 'n y dŵr a'r tân; Rhag pob rhyw ddrwg, yn nyffryn angeu du, Pwy arall fydd yn nodded i myfi? Pan âf i dref, i'r hyfryd gorlan fry, Ni chrwydraf mwy oddi wrth fy Mugail cu; Wrth gofio'r daith, a'i holl ffyddlondeb Ef, Mi seinia'i glôd i entrych nef y nef. Fy Mhriod yw, âf ar ei bwys ym mlaen, Nes dod i'r làn o'r anial fyd yn lân; "Fy nghyfaill wyt," medd Ef wrth lwch y llawr, "A'th Dduw wyf fi i dragwyddoldeb mawr." roes yn aberth :: rhodd yn 'sglyfaeth O'm crwydrad o baradwys :: O grwydr(i)ad pell paradwys Pa faint fy nghrwydro :: Pa grwydro wne's 'n y dŵr :: yn y dŵr
Tôn [10.10.10.10]: gwelir: Cyfammod rhad cyfammod cadarn Duw |
The gentle Shepherd, from heaven has come to earth, To seek his flock through the vast, dreadful desert; His life he gave as a offering in their place, And their wandering was avenged on him. From my wandering from paradise he brought me back, Very tenderly he drew me in his bosom; No one knows but he, the great Shepherd, How great my wandering from then until now. With his delightful voice he leads me forward; A companion he is in the water and the fire; From every kind of evil, in the valley of black death, Who else will be a refuge to me? When I go home, to the delightful fold above, I will wander no more away from my dear Shepherd; On remembering the journey, and all His faithfulness, I will sound his praise to the vault of the heaven of heaven. My Husband he is, I will go on after him, Until coming to the shore from the the desert world entirely "My friend though art," He says to the dust of the earth, "And thy God am I for a vast eternity." gave as an offering :: gave as prey From my wandering from paradise :: From wandering far from paradise How great my wandering :: What wandering I have done :: tr. 2010 Richard B Gillion |
The Shepherd kind from far off heaven came near, To seek his flock in desert wide and drear, His life He gave an offering in their stead. And bore their sins on his devoted head. tr. 1897 David Davies
|